Reece Lloyd
GWASANAETHAU
SERVICES
Rydw i’n cynnig gwasanaethau cyfieithu cynhwysfawr, yn gwarantu cyfieithiadau cywir a diwylliannol sensitif o amrywiaeth eang o gynnwys. Boed yn ddogfennau cyfreithiol, adroddiadau busnes neu’n weithiau llenyddol, mae fy meistrolaeth yn sicrhau bod hanfod ac arlliwiau’r testun gwreiddiol yn cael eu cadw, wrth ddarparu cyfieithiad di-fwlch sy’n atseinio gyda’r gynulleidfa darged.
I offer comprehensive translation services, guaranteeing accurate and culturally sensitive translations for a wide range of content. Whether it's legal documents, business reports, or literary works, my expertise ensures the essence and nuances of the original text are preserved, whilst delivering a seamless translation resonating with the target audience.
Sicrhau Ansawdd
Quality Assurance
Er mwyn sicrhau’r ansawdd uchaf ym mhob cyfieithiad, rydw i’n cyfiawnhau prosesau manwl fel y cadwer cywirdeb, cysondeb a chydlyniad drwy’r cynnwys a chyfieithwyd. Wrth adolygu’r cyfieithiadau a’u coethi, rydw i’n gwarantu bod y cynnyrch gorffenedig wedi’i berffeithio, heb wallau ac yn unol â gofynion y cleient.
Ensuring the highest quality in every translation, I conduct thorough processes for accuracy, consistency, and coherence to be maintained throughout the translated content. By meticulously reviewing and refining the translations, I guarantee that the final output is polished, error-free, and meet the client's specifications.
Wrth gadw llygaid barcud ar fanylion, rydw i’n darparu gwasanaeth prawfddarllen manwl er mwyn gwella'r eglurder, cydlyniad a’r cywirdeb testunau a chyfiethiwyd. Wrth arolygu gramadeg, cystrawen ac arddull, rydw i’n sicrhau bod y testun gorffenedig yn ddi-wall, atyniadol a’n barod i’w gyhoeddi neu i’w rannu.
With a keen eye for detail, I provide meticulous proofreading services to enhance the clarity, coherence, and correctness of translated texts. By carefully reviewing grammar, syntax, and style, I ensure that the final text is flawless, engaging, and ready for publication or distribution.
Arbenigedd
Expertise
Dogfennau
Documents
Cyfieithiad arbenigol o ddogfennau swyddogol a chyfreithiol sy’n sicrhau eu cywirdeb a’u hymlyniad wrth safonau ffurfiol.
Expertly translating official and legal documents, ensuring accuracy and adherence to formal standards.
Erthyglau Newyddiadurol
Journalistic Articles
Yn cyfieithu erthyglau newyddion ac ysgrifau nodwedd yn fanwl, wrth gadw tôn a chyd-destun y cynnwys gwreiddiol.
Translating news articles and features with precision, maintaining the tone and context of the original content.
Ysgrifennu Creadigol
Creative Fiction
Yn dod â nofelau, straeon byrion a gweithiau creadigol eraill yn fyw wrth ganolbwyntio ar adlewyrchu llais ac amdan yr awdur.
Bringing novels, short stories, and other creative works to life with a focus on capturing the author’s voice and intent.
Chwaraeon
Sport
Manteisio ar fy nghefndir mewn pêl-droed er mwyn cynnig cyfieithiadau arbenigol ynglŷn â chwaraeon, yn cynnwys dadansoddiad, adroddiadau a chyfryngau cysylltiedig.
Leveraging my background in football to offer specialized translations related to sports, including analysis, reports, and related media.
Prosiectau Cyfryngau
Media Projects
Ymdriniaeth â chyfieithiadau o raglenni dogfen, ffilmiau a fformatau cyfryngau eraill, yn darparu cynnwys atyniadol a pherthnasol yn ddiwylliannol.
Handling translations for documentaries, films, and other media formats, delivering engaging and culturally relevant content.
Amdanaf
About Me
Heia, Reece Lloyd ydw i, cyfieithydd proffesiynol sydd ganddo awch am ieithoedd. Rydw i’n arbenigo mewn cyfieithu, sicrhau ansawdd a phrawfddarllen ar gyfer siaradwyr Saesneg ail iaith, wrth weithio gyda dogfennau ffurfiol, ffuglen, cyfryngau ac erthyglau newyddiadurol. Daw fy nghefndir mewn Astudiaethau Cyfieithu, yn ogystal â’m serch at chwaraeon (pêl-droed yn enwedig), â manylrwydd a mewnwelediad diwylliannol i bob prosiect. Pa un a ydych yn chwilio am gywirdeb mewn ysgrifennu ffurfiol neu greadigrwydd cyfryngau, dyma fi i’ch helpu chi i gyrraedd eich amcanion.
Hi, I'm Reece Lloyd, a professional translator with a passion for language. I specialize in translation, quality assurance, and proofreading for non-native English speakers, working with formal documents, fiction, media, and journalistic articles. My background in Translation Studies, coupled with my love for sport (especially football), brings precision and cultural insight to every project. Whether you're looking for accuracy in formal writing or media creativity, I’m here to help you achieve your goals.